Mae plant yn haeddu dechreuad sicr mewn bywyd er mwyn cyrraedd eu llawn botensial. Ac eto mae 30% o blant Cymru yn parhau i fyw mewn tlodi, a’u teuluoedd yn cael eu gorfodi i wneud penderfyniadau torcalonnus i gwtogi ar hanfodion fel gwres a bwyd.
Dywedodd 50% o’r plant a holwyd gennym yn ddiweddar eu bod yn poeni a oes modd i’w teulu dalu’r biliau y gaeaf hwn. Dywedodd bron 1 ym mhob 4 eu bod yn poeni am fod yn oer a dywedodd bron cwarter eu bod wedi colli allan ar barti penblwydd o achos sefyllfa
ariannol eu teulu.
Mae plant dan bump oed mewn teuluoedd incwm isel ymhlith y rhai sy’n cael eu taro galetaf gan dlodi, gan fod y cyllid i’w cefnogi yn druenus o annigonol.
Mae’r plant hyn yn colli ar gael prydau ysgol am ddim ac, os oes gan y teulu ddau blentyn arall, dydy rhai dan bump ddim yn cael eu cyfrif yn yr ystyriaeth i dderbyn unrhyw fudd-daliadau. Dydyn nhw ychwaith ddim yn cael mynediad at unrhyw ofal plant am ddim – oni bai eu bod dros 2 flwydd oed mewn ardal Dechrau’n Deg neu dros 3 mlwydd a bod y ddau riant yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos.
Mae ein gwaith eisoes wedi arwain at gyflwyno prydau ysgol am ddim a mwy o gymorth ar gyfer costau gwisg ysgol.
Nawr rydyn ni’n cymryd rhagor o gamau i gefnogi plant cyn iddyn nhw gyrraedd oedran ysgol.
Drwy gyfrannu anrheg rithwir i’n hapêl, byddwch yn ein helpu i berswadio’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i gymryd y camau sy’n rhoi gwell cychwyn mewn bywyd i blant ifanc.
Byddwn yn defnyddio eich anrheg i archwilio’n fwy manwl y pwysau sydd ar deuluoedd incwm isel gyda phlant dan bump oed ac yn modelu’r camau gweithredu fydd fwyaf tebygol o gynyddu’r cymorth sydd ar gael iddyn nhw.
Cyfrannwch yr hyn a allwch i adeiladu ein coeden cyn y Nadolig. Am bob £50 a gasglwn ni byddwn yn ychwanegu anrheg rithwir at y casgliad.
Prynwch anrheg rithwir ar ein coeden fel anrheg i rywun arall a byddwn yn creu tystysgrif rhodd bersonol gyda neges gennych chi ar gyfer y derbynnydd.
Dewiswch un o’n e-gardiau Nadolig drwy Don’t Send Me A Card a chyfrannu’r swm fyddech chi wedi ei wario ar gardiau.
Rydyn ni’n sylweddoli na all pawb gyfrannu ar hyn o bryd. Os ydych chi’n arfer siopa ar-lein, fe allech chi ennill rhoddion am ddim i ni trwy filoedd o fân-werthwyr ar-lein trwy’r wefan hon: Give as you Live.
Cynhaliwch fore coffi ‘sgwrs PEP’ (anrhegion i roi terfyn ar dlodi), neu ginio neu noson gyda’ch gilydd a gofyn i bobl gyfrannu cost y gwpanaid. Anfonwch yr arian a godwyd drwy ein ffurflen isod.
Email: [email protected] Tel: 01685 350938 Twitter Facebook YouTube LinkedIn
Search and filter the archive using any of the following fields: