Ystyried yr argyfwng costau y Nadolig hwn

Rydyn ni i gyd yn wynebu cynnydd yn y costau byw y gaeaf hwn.

Ond i filoedd o bobl yng Nghymru, bydd y canlyniadau’n annioddefol.

Mae’n hymchwil diweddaraf wedi datgelu’r effaith ddinistriol mae’r argyfwng costau byw yn ei gael.

Rydyn ni eisoes tanlinellu’r gofid am y Prydau Ysgol am Ddim, cost gwisg ysgol, cymorth gyda biliau gwresogi a llawer o welliannau eraill ym mywydau pobl. Nawr rydyn ni’n tynnu sylw at yr argyfwng costau.

Wnewch chi’n helpu ni godi £3,000 i frwydro dros y rhai sydd yn dioddef waethaf?

Mae 5 dull y gallech eu defnyddio i’n helpu i dynnu sylw at yr argyfwng costau:

1. Addurnwch ein coeden gyda chyfraniad

Rhowch yr hyn allwch chi i lanw’n coeden cyn y Nadolig.

  • Am bob £10 a godwn, fe ychwanegwn belen neges.
  • Am bob £25 byddwn yn ychwanegu cracer â chlec.
  • Am £50 byddwn yn canu cloch.
  • Ac am £100 byddwn yn tincial y drwm.

2. Cyfrannwch â thystysgrif rhodd

Prynwch addurn rhithwir ar ein coeden fel anrheg i rywun arall a byddwn yn creu tystysgrif anrheg bersonol gyda neges gennych chi ar gyfer y derbynnydd. Dewiswch yr opsiwn tystysgrif rhodd yn y ffurflen isod.

3. Cyfrannwch yn lle anfon cardiau Nadolig

Dewiswch un o’n e-gardiau Nadolig drwy Don’t Send Me A Card a chyfrannu’r swm fyddech chi wedi ei wario ar gardiau.

4. Codwch arian drwy siopa ar-lein

Yn ei chael yn anodd i gyfrannu’n uniongyrchol? Rydyn ni’n sylweddoli ei bod yn gyfnod caled. Gallwch ennill cyfraniadau drwy brynu gan filoedd o fasnachwyr ar-lein, rhai fel Amazon Smile a Give as you Live.

5. Codwch arian drwy gymdeithasu

Cynhaliwch fore coffi, pryd amser cinio neu noson gymdeithasol a gofyn i’ch gwestai gyfrannu pris dishgled neu gwpanaid. Cysylltwch â ni-Contact us i ganfod sut mae anfon yr elw atom.

Os gwelwch yn dda, cyfrannwch neu ledaenu’n neges drwy ddefnyddio #CostCrisisCallout

Diolch yn fawr

Donate Here

Search

Search and filter the archive using any of the following fields:

  • Choose Type:

  • Choose Focus:

  • Choose Tag:

Close