Cyfiawnder cymdeithasol mewn cenedl fechan – Sioned Williams

Bevan Foundation Video opening slide
ResourcesVideosViewsSeptember 28th, 2021

Dyma’r fideo cyntaf yn ein cyfres yn edrych ar gyfiawnder cymdeithasol mewn cenedl fechan

Dros yr haf mae Steffan Evans o Sefydliad Bevan wedi bod yn cynnal cyfweliadau gyda tri gwleidydd blaenllaw i drafod cyfiawnder cymdeithasol mewn cenhedloedd bach. Yn y fideo cyntaf o’r gyfres ry ni’n cynnal sgwrs gyda Sioned Williams AS, o Blaid Cymru.

Mewn sgwrs ddifyr mae Sioned a Steffan yn trafod ystod eang o faterion sy’n ymwneud a’r pwnc. Ymhlith yr hyn mae Sioned yn ei rhannu yw’r ffaith bod ei hawydd hi i greu Gymru tecach yn greiddiol i’w chefnogaeth o annibyniaeth. Mae Sioned hefyd yn rhannu rhai o’r camau polisi y mae hi yn ei chredu y dylid eu cymryd nawr i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru. Ymhlith rhain mae ehangu meini prawf cinio ysgol am ddim a sicrhau fod ‘na well ddarpariaeth o ofal plant ar draws Cymru.

Gallwch wylio’r fideo isod. Os i chi’n mwynhau’r drafodaeth gwenwch yn siŵr eich bod yn ail ymweld a’n gwefan ni cyn diwedd yr wythnos i gymryd golwg ar ein sgwrs ni gyda Samuel Kurtz AS o’r Ceidwadwyr a Eluned Morgan AS o Lafur.

https://vimeo.com/manage/videos/590969935
https://vimeo.com/manage/videos/590969935
Tagged with: Cymraeg

Leave a Reply

Search

Search and filter the archive using any of the following fields:

  • Choose Type:

  • Choose Focus:

  • Choose Tag:

Close