Yn Byw heb unrhyw Hawl i Gyllid Cyhoeddus yn Nghenedl Noddfa

Migration
ReportsResourcesApril 25th, 2024

Mae’r nifer o bobl yng Nghymru y mae eu statws mewnfudo yn eu gwahardd rhag derbyn cyllid cyhoeddus yn cynyddu. Mae amod NRPF (Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus) yn diddymu’r modd o gyrchu’r mwyafrif o fudd-daliadau llesiant y gall pobl eraill ddibynnu arnyn nhw pan fyddan nhw mewn angen. Mae NRPF yn effeithio ar y mwyafrif o fewnfudwyr heb statws ymsefydlu a’u gosod nhw a’u teuluoedd mewn sefyllfa ansicr ac ansefydlog.

Mae gwir risg pan fydd pobl heb gyllid cyhoeddus yn wynebu amgylchiadau annisgwyl neu argyfwng (e.e. marwolaeth yn y teulu, colli swydd, neu godiad sydyn mewn costau byw’r teulu) na fydd ganddyn nhw gymorth i ddelio â hyn.

I lawer, y canlyniad ydy eu bod yn cael trafferth hirdymor gyda chostau byw dyddiol, a hynny yn cynyddu tlodi plant, salwch a chael eu hecsbloetio. I rai, mae anallu i oresgyn sialens ariannol yn arwain at ddyledion, methu â fforddio bwyd neu ddigartrefedd, gyda chanlyniadau difrifol ar gyfer iechyd a llesiant. Ȃ’u hawliau wedi’u cyfyngu a heb lwybr amlwg gweladwy allan, gall tlodi a digartrefedd fod yn anochel.

Gall cymorth amserol fod o gymorth i osgoi tlodi a’r costau ac economaidd sy’n ei ddilyn. Er bod angen dull amlasiantaethol o fynd ati, gall awdurdodau lleol chwarae rôl allweddol wrth helpu pobl i ddod o hyd i lwybr allan o dlodi. Hefyd, mae ganddyn nhw ddyletswyddau cyfreithiol penodol i gynorthwyo pobl mewn angen. Am y rheswm hwn, ffocws yr adroddiad hwn ydy awdurdodau lleol a’u perthynas gydag asiantaethau eraill.

Canfu ein hadroddiad nad oes gan y mwyafrif o awdurdodau lleol yng Nghymru ymateb cydlynol nac effeithiol i NRPF. Mae angen dybryd i wella’r cymorth a gwasanaethau er mwyn cynyddu hyfforddiant a datblygu adnoddau ar gyfer staff ac i wella ac ehangu dealltwriaeth o hawliau pobl. Ar adegau, gweinyddir cynlluniau cymorth sydd heb fod yn gyllid cyhoeddus mewn modd sy’n eithrio pobl gydag amod NRPF rhag gwneud cais. Prin oedd yr ymglymiad strategol a welson ni oedd wedi’i anelu at atal tlodi neu fater ehangach NRPF.

Mae hefyd bylchau mewn gwybodaeth a data ac mae hyn yn fater o bryder. Ni all y mwyafrif o awdurdodau lleol ddangos faint o gymorth neu’r math o gymorth y maen nhw’n ei gynnig i ddiwallu eu dyletswyddau statudol, i oedolion a phlant ag anghenion gofal a chymorth a effeithir gan amod NRPF. Yn absenoldeb polisïau mewnol a chanllawiau ymarferol, doedd hi ddim yn bosibl i ni nodi a ydy asesiadau o’r cymorth hwn yn wybodus a phriodol. Doedd hi ddim yn bosibl i ni gadarnhau nifer y bobl gyda NRPF y gwrthodwyd cymorth iddyn nhw ac ym mha amgylchiadau ac a oedd ffynonellau amgen o gymorth yn cael eu nodi a’u harwyddo yn gyson.

Gwelwyd cynnydd pendant yn nifer y bobl gydag amod NRPF ers 2020. Bydd y Ddeddf Mewnfudo Anghyfreithlon eto’n cynyddu nifer y bobl heb fynediad i gyllid cyhoeddus na’r gallu i weithio, gan newid amgylchiadau pobl sy’n ceisio nodded yng Nghymru yn sylweddol. Mae’n hanfodol bod Cymru’n datblygu ymateb strategol a rhagweithiol i NRPF sydd wedi’i seilio ar anghenion a phrofiadau pobl sy’n cael eu heffeithio gan y cyfyngiad. Mae hyn yn ymestyn tu hwn i awdurdodau lleol, ond maen nhw’n chwarae rôl allweddol a dylen nhw fod yn arwain y ffordd wrth atal tlodi a chyni ac wrth helpu pobl i symud ymlaen i fywyd cynaladwy ac annibynnol.

Tudalennau: 70

Fformat: PDF

Iaith: Cymraeg 

Cost: Am ddim  

Download

Tagged with: Cymraeg

Search

Search and filter the archive using any of the following fields:

  • Choose Type:

  • Choose Focus:

  • Choose Tag:

Close