Mae’r Sefydliad Bevan wedi cyflwyno tystiolaeth i Bwyllgorau’r Senedd ar gydsyniad ddeddfwriaethol i’r Bil Mewnfudo Anghyfreithlon.
Yn ddiweddar cafodd y Sefydliad Bevan wahoddiad i rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Cydraddoldeb a Cyfiawnder Cymdeithasol, a Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd wrth iddynt ystyried Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a osodwyd mewn perthynas â’r Bil Mudo Anghyfreithlon gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, ar 31 Mawrth 2023. Yn ein hymateb fe wnaethom y pwyntiau allweddol canlynol:
- Mae’r Bil yn mynd yn groes i’r weledigaeth o ystyried Cymru fel Cenedl Noddfa a’r egwyddor ‘Plentyn yn Gyntaf, Mudwr yn Ail’ sy’n sail i’r gwaith o ddarparu cymorth i blant sy’n ceisio lloches yng Nghymru.
- Mae’r Bil yn cynnig darpariaethau ym maes datganoledig gofal cymdeithasol yng Nghymru.
- Mae’r Bil yn cyflwyno pwerau sy’n gwrthdaro â dyletswyddau awdurdodau lleol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
- Mae’r Bil yn anghydnaws â rhwymedigaethau rhyngwladol y DU, a Chymru fel llywodraeth ddatganoledig, o dan Gonfensiwn Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig 1951, y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (EHCR), Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), a Chonfensiwn Cyngor Ewrop ar Weithredu yn Erbyn Masnachu mewn Pobl.
- Mae’r Bil yn mynd yn groes i Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
- Dydy’r Bil ddim wedi rhoi ystyriaeth i les gorau’r plentyn.
- Mae’r Bil yn gwneud darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig y Senedd. Rydyn ni’n annog y Pwyllgorau i argymell bod y Senedd yn gwrthod cydsyniad deddfwriaethol.
Ym marn y Sefydliad Bevan mae’r Bil Mudo Anghyfreithlon yn gwneud darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig y Senedd ac mae’r Sefydliad yn annog y ddau Bwyllgor i argymell i’r Senedd ei bod yn gwrthod cydsyniad cyfreithiol.
Mae’r Sefydliad Bevan wedi cyfrannu at nodyn briffio ar y cyd ar gyfer y Pwyllgorau, yng nghyd a Canolfan Gyfreithiol y Plant a Cymdeithas y Plant. Mae’r ddau ddogfen ar gael ar wefan y Senedd. Fe fydd y Memorandwm Cydsyniad Cyfreithiol yn cael ei drafod yn Nghyfarfod Llawn y Senedd ar 20 Mehefin 2023.