Sut y gall y trydydd sector ddylanwadu ar y llywodraeth

People
Photo by Priscilla Du Preez on Unsplash
EventsTrainingEvent Date: Sep 7th, 2023  Location: Principality Stadium

View in English »

Dau weithdy personol unigryw i bawb sydd am gael eu clywed gan Lywodraeth Cymru

Bob dydd mae llywodraethau’n gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar sefydliadau trydydd sector a’r bobl y maent yn gweithio gyda nhw. Ond yn aml gall fod yn anodd i elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau nid-er-elw eraill roi eu barn a’u profiadau i’r llywodraeth.

Bydd y gweithdai unigryw hyn yn rhoi’r mewnwelediad a’r offer sydd eu hangen arnoch i gael eich clywed gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau.

Beth sydd dan sylw?

Mae’r gweithdai’n tynnu ar ganfyddiadau ymchwil gan Dr Amy Sanders ar sut mae sefydliadau trydydd sector yn dylanwadu ar Lywodraeth Cymru, sy’n golygu bod y technegau a’r awgrymiadau y byddwch chi’n eu dysgu yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn o’r ‘hyn sy’n gweithio’. Fe’i hariennir gan Ganolfan Deialog Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r hyfforddiant wedi’i rannu’n ddau weithdy – mae sesiwn y bore yn ymdrin â dylanwadu ar Lywodraeth Cymru yn gyffredinol, tra bod sesiwn y prynhawn yn canolbwyntio’n benodol ar ddylanwadu ar bolisi cydraddoldeb. Mae croeso i chi fynychu’r naill neu’r llall neu’r ddwy sesiwn.

Lawrlwythwch y rhaglen »

Pwy ddylai fynychu?

Bydd y gweithdai o ddiddordeb i:

  • pob sefydliad trydydd sector sydd am ddylanwadu ar bolisïau llywodraeth leol neu Gymru.
  • cyrff ymbarél sy’n cynrychioli sefydliadau trydydd sector.
  • sefydliadau sy’n gweithio ar faterion cydraddoldeb (gan gynnwys oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol).
  • grwpiau llawr gwlad a chymunedol.

Mae rhywbeth at ddant pawb ond y rhai fydd yn elwa’n benodol yw’r bobl neu’r sefydliadau hynny sy’n newydd i ddylanwadu.

Y Pethau Ymarferol

Bydd yr hyfforddiant yn digwydd yn bersonol yn Lolfa Dewi Sant yn Stadiwm Principality yng nghanol dinas Caerdydd. Mae’n cynnwys gweithgareddau cynulleidfa a chyfranogiad felly byddwch yn barod i gyfrannu.

Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gyflwyno yn Saesneg.

Mae mynediad am ddim ond mae archebu ymlaen llaw yn hanfodol. Rydym yn gofyn am un cofrestriad fesul sefydliad.

Tagged with: Cymraeg

Search

Search and filter the archive using any of the following fields:

  • Choose Type:

  • Choose Focus:

  • Choose Tag:

Close