Ein adroddiad ar dlodi yn cael sylw sylweddol  

Poverty Image of a panel discussion at an Eisteddfod tent
Eisteddfod report launch
NewsAugust 18th, 2023

Mae’r Sefydliad Bevan wedi lawnsio ein hadroddiad newydd ar dlodi yn Arfon yn yr Eisteddfod 

Fe wnaeth y Sefydliad Bevan lawnsio ein hadroddiad newydd, Tlodi Yn Arfon, yn y 21ain ganrif: Datrysiadau cyfoes ar gyfer hen her, yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar Awst 7fed. Cafodd yr adroddiad, a chafodd ei chomisiynu gan Hywel Williams AS, ei lawnsio mewn drafodaeth banel ym mhabell y cymdeithasau. Roedd ‘na dorf dda ar gyfer y drafodaeth ac yn ymuno â Steffan a Hywel Williams MS ar y panel oedd Catrin Wager, Siân Elen Tomos o GISDA a’r Cynghorydd Menna Trenholme.  

Fe wnaeth yr adroddiad ddenu sylw sylweddol o’r wasg. Cyhoeddiad yr adroddiad oedd prif stori Newyddion S4C ar ddiwrnod y lansiad ac fe wnaeth hefyd gael sylw ar BBC Wales Today. Fe cynhaliwyd cyfweliad byw gyda Steffan o stiwdio y BBC ar gyfer BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales ar Awst 8fed, gyda’r stori hefyd yn ymddangos ar wefan y BBC yn Gymraeg ac yn Saesneg, gyda sylw pellach yn y Western Mail.   

Mae’r Sefydliad Bevan yn edrych ymlaen i weld sut fydd y gwaith yn datblygu ym mhellach. Fe allwch ddarllen yr adroddiad yn llawn yma.  

Tagged with: Cymraeg

Search

Search and filter the archive using any of the following fields:

  • Choose Type:

  • Choose Focus:

  • Choose Tag:

Close