Poverty
ReportsResourcesAugust 7th, 2023

Mae tlodi yn broblen ar draws Cymru. Mae’r Sefydliad Bevan wedi ei comisiynu gan Hywel Williams AS i archwylio effaith tlodi yn Arfon, ac i ganfod datrysiadau.

Mae tlodi yn broblem ym mhob cymuned ledled Cymru. Roedd un person o bob pump (21 y cant) yn byw mewn tlodi yng Nghymru rhwng 2019-20 a 2021-22. Er hyn, dim ond ychydig o ddata sydd ar gael ar dlodi o dan lefel genedlaethol, sy’n golygu y gellir anwybyddu effaith ffactorau lleol pwysig ar dlodi.

Mae’r adroddiad hwn yn canfod fod ‘na ddau ffactor lleol sy’n sbarduno tlodi yn Arfon. 

Yn gyntaf, er bod y cyfraddau cyflogaeth cyffredinol yn Arfon yn debyg i weddill Cymru a Phrydain Fawr, mae problem gyda chyflogau isel a gwaith ansicr yn yr etholaeth. Mae hyn er gwaetha’r ffaith bod cyflog nodweddiadol swyddi sydd wedi eu lleoli yn Arfon yn gymharol uchel. 

Yn ail, mae pobl sy’n byw yn Arfon yn wynebu premiwm costau byw. Mae premiwm costau byw Arfon yn golygu bod aelwydydd yn wynebu costau tai, tanwydd a trafnidaeth uchel sydd yn rhoi pwysau ar deuloedd incwm isel. 

Mae’r adroddiad yn amlinellu camau y gellir eu cymryd i leihau effaith tlodi yn Arfon. Er mai San Steffan sydd â’r pwerau o hyd i gyflwyno newidiadau sylweddol i’r system nawdd cymdeithasol neu i’r farchnad lafur, mae’r adroddiad yn dangos fod ‘na gamau y gellir eu cymryd yn lleol i leihau y nifer o bobl sydd yn byw mewn tlodi. 

Tudalennau: 51 

Format: PDF

Iaith: Cymraeg (available in English by clicking on the toggle on the top of the page)

Cost: Am ddim

 

Download

Tagged with: Cymraeg

Search

Search and filter the archive using any of the following fields:

  • Choose Type:

  • Choose Focus:

  • Choose Tag:

Close