Steffan Evans o Sefydliad Bevan yn aelod o banel fu’n trafod yr argyfwng dai yn yr Eisteddfod AmGen
Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghregaron wedi ei gohirio am flwyddyn arall fe fu rhaid i drafodaethau’r ŵyl symud ar lein eleni eto. Roedd na lwyth o ddarlithoedd a trafodaethau difyr i’w gael ar wefan yr Eisteddfod AmGen ac roedd y Sefydliad Bevan yn falch iawn i dderbyn gwahoddiad i ymuno a’r trafod yn sesiwn Cnoi Cil Nation.Cymru.
Ymunodd Steffan Evans o’r Sefydliad gyda Aelod Seneddol Plaid Cymru; Mabon ap Gwynfor, a Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith; Mabli Siriol, gyda’r sesiwn yn cael ei gadeirio gan Ifan Morgan Jones. Cafwyd trafodaeth ddifyr rhwng y tri ar yr argyfwng dai, gyda nifer o syniadau yn cael eu rhannu am ba gamau gellid eu cymryd i leihau’r argyfwng rydym ni yn ei wynebu.
Mae modd i chi wrando nol ar y drafodaeth drwy ymweld gyda gwefan yr Eisteddfod, neu drwy glicio yma.