Dod o hyd i obaith yn yr argyfwng costau byw: Sut y datblygodd addysg oedolion yn rhywbeth llawer mwy na dysgu yn unig

Poverty Photo of three people looking at laptop
Photo by Tima Miroshnichenko (Pexels)
ResourcesViewsNovember 24th, 2022

Kathryn Robson yw Prif Weithredwr Addysg Oedolion Cymru, y sefydliad cenedlaethol ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned yng Nghymru, sydd wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwyddo dinasyddiaeth weithgar a datblygu sgiliau.

Mae’r argyfwng costau byw yn gafael. Mae biliau wedi codi’n aruthrol, ac mae pobl yn wynebu dewisiadau ynghylch bwyta neu gynhesu eu tai, er gwaethaf pa mor galed y maent yn gweithio. Mae hyd yn oed eitemau cyffredin pob dydd yn ymddangos allan o gyrraedd. Mae’n ddarlun tywyll. Ond rydym yn gweithio i ddarparu llygedyn o olau. Mae Addysg Oedolion Cymru yn helpu pobl i edrych am lwybrau allan o dlodi a chanfod ffyrdd o ddadlwytho rhywfaint o’r baich.

Anfonwyd arolwg i’n dysgwyr, aelodau a staff. Yr hyn ddaeth yn amlwg oedd bod mynediad at gyfleoedd dysgu yn cynnig yn gynyddol cymaint mwy na’r dysgu. Mae’n darparu lle i gadw’n gynnes, cyfarfod â phobl eraill a chymdeithasu, cael rhywbeth cadarnhaol a phleserus i edrych ymlaen ato, cyfleoedd i wneud cyfeillgarwch newydd, cael rhigol arferol ynghyd ag ymdeimlad o normalrwydd. Ac mae’n cynnig cyfnodau o hwyl sydd gwir ei angen ar hyn o bryd.

Cefais gyfle i gyfarfod grŵp o ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghwmbrân Uchaf tra eu bod yn addurno pwmpenni. Dywedodd eu gofalwyr wrthyf fod y cyfleoedd yn achubiaeth iddynt. Maent yn dod i le cynnes, ac yn cymysgu â phobl eraill ac yn cael hwyl. Nid ydynt yn edrych ymlaen at ddiwedd y sesiwn oherwydd mae’n derfyn ar y cyfnod o hwyl a bywiogrwydd, ac rydym yn edrych ar sut y gallwn ddarparu mwy ar eu cyfer. A dyna’r peth, mae’r galw am ein gwasanaethau yn uchel. Rydym yn ceisio cynnal mwy o weithgareddau hwb cynnes, fel sesiynau rhifedd, llythrennedd a sgiliau digidol, lle rydym yn darparu lle cynnes i bobl fynd, oherwydd na allant fforddio gwresogi eu cartrefi.

I ddysgwyr eraill, mae cael y cyfle i wella sgiliau yn cynnig llwybr posibl allan o dlodi. Y tlotaf sy’n cael eu heffeithio gwaethaf gan yr argyfwng, ac mae 100,000 o bobl yng Nghymru eisoes ar gyllidebau negyddol. Mae llawer o bobl yn gweithio’n galed iawn, yn aml yn gwneud dwy neu tair swydd a delir ar yr isafswm cyflog. Felly, maent yn ddibynnol ar fudd-daliadau.

Rydym yn gweithio gyda nhw i ddatblygu sgiliau newydd fel y gallent ddod o hyd i lwybr at gyflogaeth gyda chyflog uwch. I wneud i hynny ddigwydd, darparwn gyfleoedd i ddysgu o gwmpas patrymau shifft, megis gyda’r nos ac ar benwythnosau, a lle gallent ddod â’u plant hefyd, os oes angen. Ac rydym yn dod â’r dysgu iddyn nhw mewn lleoliadau cymunedol lleol fel nad oes rhaid iddynt boeni am deithio.

Yn ogystal â dysgu’r sgiliau newydd hynny, mae’r dosbarthiadau hefyd yn gyfle i rannu baich yr argyfwng costau byw a thrafod yr heriau. Mae llesiant yn hollbwysig ar adegau fel hyn. Mae’n atgoffa pobl nad ydynt ar eu pen eu hunain a bod eraill yn mynd trwy’r un peth. Ac mae’n tynnu dysg, gwybodaeth a phrofiad ynghyd. Rydych yn aml yn clywed rhywun yn dweud, ‘oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael hwn o fanna, ‘mae yna elusen a all helpu,’ neu ‘mae yna fanc bwyd y gallwch fynd iddo yma’. Mae hynny’n hollbwysig, yn enwedig pan nad Saesneg yw eich iaith gyntaf.

Mae Addysg Oedolion Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl o’r Wcráin sy’n defnyddio ein gwasanaethau, gan eu bod eisiau datblygu eu sgiliau iaith a dod yn economaidd weithgar. Mae llawer ohonynt yn fenywod proffesiynol. Cefais gyfle i gyfarfod grŵp ohonynt oedd yn cynnwys cyfrifwyr ac economegwyr yn Aberteifi. Symudasant yma gyda’u plant, gan adael eu gwŷr ar ôl i ymladd yn y rhyfel. Er gwaethaf eu trawma ar ffaith eu bod yn wynebu’r argyfwng costau byw, roeddent yn gadarnhaol iawn gydag ymdeimlad gwych o bwrpas. Ac yn ddiddorol, mae bron pob un ohonynt wedi penderfynu eu bod eisiau dilyn llwybr gyrfa wahanol. Maent wedi sylweddoli bod llawer mwy i fywyd ac eisiau dilyn rhywbeth maent yn teimlo’n angerddol amdano.

Rydym wedi dweud yn aml fod yr hyn a gyflawnir gennym fel sefydliad yn newid bywydau. Ond yn awr, y mae yn fwy na hynny.

Bûm yn siarad gyda grŵp oedd yn mynychu gweithdy gwaith coed ym Mhort Talbot. Dioddefodd un o’r dynion drawiad ar y galon ychydig yn ôl ac iddo syrthio i bwll o iselder ysbryd. Rhoddodd y gweithdy gwaith coed obaith, cyfeillgarwch, a rheswm iddo fyw – dywedodd na fyddai yma heb y sesiynau hynny. Ac nid yw ar ei ben ei hun.

Yn ystod y cyfnod anodd yma, mae llawer o’n dysgwyr yn dweud wrthym fod yr hyn a wnawn yn achub bywydau hefyd.

Leave a Reply

Search

Search and filter the archive using any of the following fields:

  • Choose Type:

  • Choose Focus:

  • Choose Tag:

Close