Adroddiad newydd gan Sefydliad Bevan a Sefydliad Joseph Rowntree yn galw am newidiadau radical i system gofal plant Cymru.
Bu dod o hyd i ofal plant fforddiadwy, o ansawdd da, yn sialens i deuluoedd ar draws Cymru ers blynyddoedd. Dros y blynyddoedd diwethaf, gwnaed ymdrech sylweddol i fynd i’r afael â rhai o’r sialensiau hyn. Mae pryderon yn dal i fodoli na fydd y system, er gwaethaf y diwygiad hwn, yn gwireddu ei photensial yn enwedig o ran gostwng tlodi ac anghydraddoldeb.
Ym mis Mai 2023, cyhoeddodd Sefydliad Joseph Rowntree a ‘Coram Family and Childcare’ adroddiad blaengar Tackling disadvantage through childcare. Nododd yr adroddiad bum egwyddor a ddylai fod wrth wraidd system gofal plant os yw am fynd i’r afael ag anfantais.
Mae camau y gellir eu gweithredu yng Nghymru o ran pob un o’r egwyddorion hyn er mwyn sicrhau bod gennym system gofal plant sydd wir yn mynd i’r afael ag anfantais. Mae’r adroddiad newydd yma gan y Sefydliad Bevan a’r Sefydliad Joseph Rowntree yn edrych ar y dystiolaeth ddiweddaraf ac yn edrych am ddatrysiadau i neud gofal plant yng Nghymru yn:
- Fforddiadwy: Rhaid i ofal plant fod yn fforddiadwy er mwyn galluogi rhieni i weithio.
- Ansawdd: Rhaid i’r ddarpariaeth fod yn uchel ei ansawdd er mwyn gwella canlyniadau.
- Cyrchu: Mae angen i blant difreintiedig allu cyrchu addysg gynnar a gofal plant.
- Ffocws ar y teulu: Rhaid i ofal plant gynorthwyo amgylchedd dysgu yn y cartref.
- Integredig: Rhaid i ofal plant fod yn un o bileri system gymorth ehangach.
Tudalennau: 28
Fformat: PDF
Iaith: Cymraeg
Cost: Am ddim