Ni welwyd unrhyw welliannau mawr yn safonau byw pobl ar draws Cymru ers ein harolwg diwethaf ym mis Gorffennaf 2023.
Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, mae pobl yng Nghymru wedi wynebu sialensiau na fyddai neb wedi eu dychmygu ar ddechrau’r degawd. Rhwng Covid-19 a’r argyfwng costau byw, mae pobl a chymunedau wedi bod dan bwysau sylweddol. Mewn cyfnod mor ansicr â hyn, mae arolygon Sefydliad Bevan o Gipolwg ar Dlodi wedi darparu mewnwelediadau hanfodol o’r modd y mae pobl yng Nghymru yn ymdopi.
Mae ein harolwg diweddaraf yn cymryd golwg ar y modd y mae pobl yng Nghymru’n ymdopi ar gychwyn blwyddyn newydd.
Canfyddiadau allweddol:
Ni welwyd unrhyw welliannau mawr yn safonau byw pobl ar draws Cymru ers ein harolwg diwethaf ym mis Gorffennaf 2023. Mae hyn yn peri pryder bod lefelau uwch o dlodi a chaledi ariannol wedi tyfu i fod y “normal newydd”.
Tudalennau: 5
Fformat: PDF
Iaith: Cymraeg
Cost: Am ddim