Poverty
ReportsSeptember 5th, 2023

Ymchwil newydd gan Sefydliad Bevan yn datgelu bod yr argyfwng costau byw yn dal i gael effaith ddinistriol ar bobl yng Nghymru

Bu’r tair blynedd diwethaf yn wirioneddol anodd i bawb bron yng Nghymru. Gydag argyfwng costau-byw yn dilyn yn syth ar ôl pandemig Covid, ni chafodd llawer o bobl nemor ddim seibiant rhag pwysau ariannol. Mae’r gyfres Ciplun o Dlodi gan Sefydliad Bevan wedi datblygu’n adnodd hanfodol i unrhyw un sydd am ddeall tlodi yng Nghymru.

Ymysg y canfyddiadau allweddol mae:

  • Bod dros un teulu ymhob saith yng Nghymru (15%) weithiau, yn aml neu bob amser yn cael trafferth i fforddio eitemau hanfodol.
  • Bod nifer fawr o bobl yn mynd heb hanfodion gan gynnwys dros un o bob pedwar (26%) yn bwyta prydau llai neu hepgor pryd cyfan.
  • Bod dyled yn broblem sylweddol gyda 29% yn benthyg arian rhwng Ebrill 2023 a Gorffennaf 2023 ac 13% mewn ôl-ddyled ar o leiaf un bil am o leiaf un mis.
  • Y gall effaith gronnol yr argyfwng costau byw wneud bywyd hyn yn oed yn fwy anodd i bobl. Mae dros bedwar o bob deg sydd wedi cwtogi ar maint eu prydau bwyd neu wedi hepgor prydau bwyd cyfan wedi benthyg arian gan ffrindiau a theulu (45% ) neu ar gerdyn credyd (42 %) er Ebrill 2023.
  • Bod eu sefyllfa ariannol yn effeithio’n negyddol ar iechyd pobl. Nododd 45% o bobl hyn o ran ei hiechyd meddwl a nododd 28% hyn o ran eu hiechyd corfforol.

Mae’r ffaith na chafwyd fawr o newid yn y safon byw yn ystod hanner cyntaf 2023 yn achosi pryder sylweddol am y modd y bydd pobl yn ymdopi yn ystod y misoedd sydd i ddod. Drwy gydol gaeaf 2022/23 darparwyd cymorth ychwanegol sylweddol gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Er y cyhoeddwyd peth cymorth ychwanegol ar gyfer misoedd y gaeaf nesaf, mae’n ymddangos ei fod yn llawer llai nag oedd ar gyfer gaeaf 2022/23. O dderbyn bod nifer y bobl sy’n cael trafferth i ymdopi‘n ariannol yn parhau’n eithriadol o uchel, gallai pobl wynebu lefelau caledi sylweddol y gaeaf hwn oni bai bod pob haen o lywodraeth yn newid cwrs neu bod gwelliant mawr yn digwydd yn sefyllfa ariannol pobl.

Mae’n wybyddus nad ydy argyfwng costau byw yn effeithio’n gyfartal ar bawb. Gydag arwyddion cyfredol yn awgrymu ei bod yn annhebygol y bydd ymyriadau eang eu graddfa, ar draws poblogaethau gyfan o ran costau byw, mae deall pa grwpiau sydd wedi cael ei heffeithio fwyaf yn bwysicach nag erioed. Mae’r arolwg yn amlygu bod rhai grwpiau wedi ei chael hi’n llawer anoddach nag eraill:

  • Pobl ar fudd-daliadau: mae bron hanner y bobl sydd ar Gredyd Cynhwysol wedi hepgor prydau bwys neu wedi cwtogi ar faint y pryd o fwyd (49%) neu fynd heb wres yn eu cartref (45%).
  • Pobl sy’n Rhentu: benthyciodd bron hanner o bobl sy’n rhentu arian o un ffynhonnell o leiaf yn ystod y tri mis hyd at Orffennaf 2023 (47% o bobl sy’n rhentu a 45% o rentwyr preifat), gyda 48% o rentwyr preifat yn hepgor neu dorri lawr ar brydau bwyd.
  • Pobl anabl: mae dros un person anabl o bob deg y mae eu cyflwr yn eu cyfyngu i raddau helaeth wedi mynd heb wres (41%) neu wedi torri lawr ar bryd bwyd neu ei hepgor (46%).
  • Rhieni plant o dan 18 oed: mae bron hanner (47%) o rieni wedi benthyg arian rhwng Ebrill a Gorffennaf 2023.

Tudalennau: 5

Fformat: PDF

Iaith: Cymraeg (fersiwn llawn ar gael yn Saesneg drwy ddewis yr opsiwn ar dop y dudalen)

Cost: Am ddim  

Download

Tagged with: Cymraeg

Search

Search and filter the archive using any of the following fields:

  • Choose Type:

  • Choose Focus:

  • Choose Tag:

Close