

Fe wnaeth Steffan Evans o Sefydliad Bevan ymddangos ar raglen Newyddion S4C a Wales Today y BBC i drafod tlodi a gwaith
Yn sgil effaith y pandemig ar yr economi mae raglenni sy’n cefnogi pobl i gael swydd yn debygol o chwarae rôl mwy blaengar nag erioed dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf. Ond yn siarad ar raglen Newyddion S4C ac ar raglen Wales Today y BBC fe wnaeth Steffan Evans o’r Sefydliad Bevan nodi na all cynlluniau o’r fath ddatrys tlodi yn gyfan gwbwl o achos raddfa’r broblem. Meddai:
“Fi’n credu bod y prosiectau yn gallu cael effaith positif iawn ar unigolion. Yn amlwg os i chi’n elwa o’r cynllun ma fe yn mynd i cael effaith positif a rhoi cyfleon i chi falle bydde dim ‘da chi fel arall.
Ond wrth gwrs mae graddfa y broblem sy’ ‘da ni yng Nghymru – lle mae tua chwarter y boblogaeth yn byw mewn tlodi – yn meddwl mai ychydig bach o newid i’r nifer fawr o bobl sy’n diodde y’n ni’n gweld trwy’r cynlluniau yma.
Hefyd, mae’n cymryd yn ganiataol mai diffyg sgiliau yw’r broblem yn hytrach na diffyg argaeledd swyddi sy’n talu’n dda yn ein cymunedau ni.”
Gallwch wylio’r eitem yn ôl ar wefan BBC Iplayer neu mae modd i ddarllen rhagor ar wefan Cymru Fyw.