Mae canfod gofal plant safonol a fforddiadwy yn hen her i deuluoedd ar draws Cymru. Dros y blynyddoedd diwethaf mae na ymdrech sylweddol wedi bod i fynd i’r afael a rhai o’r heriau yma, gyda rhagor o ddiwygio ar y gorwel. Parhau mae’r gofidiau fodd bynnag nad yw’r system mor effeithiol ac y fedrau fod, yn enwedig o ran sut mae’n mynd ati i leihau tlodi ac anghyfartaledd.
Wrth i ni nodi dwy flynedd ers cyhoeddi adroddiad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, Gwarchod y dyfodol, y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio ymunwch â Sefydliad Bevan a’r Sefydliad Joseph Rowntree ar Ionawr 31ain wrth i nhw lawnsio ein adroddiad newydd – Taclo anfantais trwy ofal plant yng Nghymru a rhannwch eich barn am yr heriau sy’n wynebu y system ofal plant yng Nghymru.
Dyddiad: Dydd Mercher 31 Ionawr 2024
Amser: 12:00 i 13:15
Lleoliad: Ystafell Pwyllgor C a D, Tŷ Hywel, Cardiff Bay, CF99 1SN
Mae’r digwyddiad yn cael ei noddi gan Jenny Rathbone MS
Email: [email protected] Tel: 01685 350938 Twitter Facebook YouTube LinkedIn
Search and filter the archive using any of the following fields: