Ein Pennaeth Polisi, Steffan Evans, sydd yn edrych ar y stigma mae toldi yn ei achosi yn dilyn adroddiad newydd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
Mae effaith ddinistriol stigma sy’n gysylltiedig â thlodi yn bodoli ers tro. Rydym yn gwybod ei fod yn gwaethygu iechyd meddwl pobl, yn gwneud i bobl beidio â hawlio’r holl fudd-daliadau mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw, ac yn cynyddu’r risg y bydd plant yn absennol o’r ysgol. Tan yn ddiweddar, nid oeddem yn gwybod llawer am ba mor gyffredin oedd y stigma mewn cymunedau yng Nghymru. Mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn taflu goleuni ar yr agwedd hon ar dlodi sy’n aml yn cael ei diystyru, gan godi rhai cwestiynau ynghylch pa gamau y dylid eu blaenoriaethu i fynd i’r afael â hyn.
Pa mor gyffredin yw stigma tlodi yng Nghymru?
Mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn defnyddio gwybodaeth a gasglwyd gan YouGov fel rhan o Arolwg Cipolwg ar Dlodi gan Sefydliad Bevan. Mae’n edrych ar brofiadau pobl o stigma mewn dwy ffordd:
- Stigma yn sgil agweddau pobl eraill – profiadau personol unigolion o gael eu barnu’n negyddol, eu heithrio, neu eu trin yn annheg gan eraill am eu bod yn byw ar incwm isel.
- Stigma canfyddedig – cred unigolion bod pobl sy’n byw ar incwm isel yn cael eu trin yn annheg gan wasanaethau cyhoeddus, y sawl sy’n gwneud penderfyniadau, a sefydliadau fel y cyfryngau.
Mae’n amlwg o’r data bod pobl ledled Cymru yn cydnabod bod stigma canfyddedig yn bodoli. Mae dros 6 o bob 10 o bobl ledled Cymru yn meddwl bod pobl sy’n byw ar incwm isel weithiau, yn aml neu bob amser yn cael gwasanaeth cyhoeddus o safon is (63%), ac mae dros 7 o bob 10 o bobl yn meddwl bod gwleidyddion weithiau, yn aml neu bob amser yn edrych i lawr ar bobl ar incwm isel (73%).
Er bod pobl ledled Cymru yn cydnabod bod stigma canfyddedig yn bodoli, pobl ar incwm isel sydd fwyaf tebygol o ddweud eu bod wedi profi stigma yn sgil agweddau pobl eraill. Mae mwy nag 1 o bob 5 person sy’n byw ar aelwydydd ag incwm o lai nag £20,000 weithiau, yn aml neu bob amser yn gweld pobl yn eu trin yn nawddoglyd oherwydd nad oes ganddyn nhw arian (22%) o’i gymharu â chyfartaledd Cymru, sef 13%.
Sut gallwn ni leihau stigma tlodi?
Y prif beth sy’n achosi i bobl deimlo stigma yw tlodi ei hun. Efallai y bydd modd lleihau’r stigma sy’n gysylltiedig â thlodi drwy gymryd camau fel darparu gwell hyfforddiant i staff. Gallai hyn leihau nifer yr achosion o staff sy’n siarad yn nawddoglyd â phobl ar incwm isel, gan leihau stigma. Fodd bynnag, er mwyn gwneud gwahaniaeth mwy sylweddol, mae angen edrych ar y berthynas rhwng stigma a’r elfennau strwythurol sy’n achosi tlodi.
Nid dim ond canlyniad i dlodi yw stigma. Mae hefyd yn gallu gwaethygu ei effaith a gwthio pobl i fwy o dlodi a’u cadw mewn tlodi am gyfnod hirach. Os bydd y dirywiad yn iechyd meddwl person yn arwain at leihau ei oriau gwaith, bydd ei risg o fyw mewn mwy o dlodi yn cynyddu. Bydd pobl sy’n dewis peidio â hawlio eu budd-daliadau yn wynebu mwy o galedi ariannol na phe baen nhw’n hawlio’r holl gymorth mae ganddyn nhw hawl iddo. Bydd plant sy’n absennol o’r ysgol oherwydd stigma yn ei chael hi’n anoddach cael y graddau gorau, gan gynyddu eu risg o fyw mewn tlodi pan fyddan nhw’n oedolion. Dylai’r camau a gymerir i fynd i’r afael â stigma ganolbwyntio ar feysydd fel y rhain.
Enghraifft o’r hyn y gellid ei wneud yw ei gwneud yn haws i bobl wneud cais am fudd-daliadau drwy’r system nawdd cymdeithasol. Ceir corff o dystiolaeth sy’n dangos bod gorfod llenwi sawl ffurflen gais a siarad ag ymgynghorwyr ac aseswyr amrywiol yn gallu dwysáu’r stigma sy’n gysylltiedig â thlodi, gan arwain at bobl yn peidio â hawlio’r cymorth y mae ganddyn nhw’r hawl iddo. Gallai symleiddio’r broses o wneud cais am gymorth fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn, gan gynyddu’r nifer sy’n hawlio budd-daliadau a lleihau stigma. Mae’n braf gweld bod Llywodraeth Cymru eisoes yn cymryd camau ar hyn gyda’i phartneriaid yn yr awdurdodau lleol fel rhan o’i gwaith i ddatblygu System Budd-daliadau i Gymru. Rhaid i’r gwaith hwn barhau ar garlam i ddatblygu ateb sy’n gweithio i bawb yng Nghymru.
Man arall lle gellid cymryd camau yw yn ein hysgolion. Pam mae rhai ysgolion yn dal i fynnu bod disgyblion yn gwisgo gwisg ysgol ddrud neu’n trefnu teithiau ysgol drud iawn? Nid yn unig y mae’r gofynion a’r gweithgareddau hyn yn dyfnhau’r ymdeimlad o stigma a deimlir gan blant, maen nhw’n tanseilio polisïau eraill Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cynllunio i leihau stigma fel darparu prydau ysgol am ddim i bawb. Os nad yw ysgolion yn barod i arwain ar y materion hyn neu i ddilyn canllawiau, yna mae achos i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol gymryd camau llymach.
Nid yw’r camau hyn ar eu pen eu hunain yn debygol o ddatrys tlodi na dileu effaith ei stigma, ond byddan nhw’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl. Drwy gymryd y mesurau hyn ochr yn ochr ag ymyriadau eraill fel buddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o dai cymdeithasol a gwella mynediad at ofal plant, mae’n bosibl newid sefyllfa tlodi yn sylweddol a lleihau ei stigma.