Plant sy’n talu’r pris am yr argyfwng costau byw

Poverty Child with pig toy
Credit: Francesca Jones/Save the Children
ResourcesViewsOctober 26th, 2022

Gwrandewch! a gweithredwch ar yr hyn y mae plant yn ei ddweud wrthym, medd Melanie Simmonds, pennaeth Achub y Plant Cymru

Yn ddiweddar fe ganfyddais adroddiad a gyhoeddwyd gan Achub y Plant bymtheg mlynedd yn ôl, tua’r un pryd ag y dechreuais i weithio gyda’r elusen.

Mae Gwrandewch! Plant a Phobl Ifanc yn Siarad Am Dlodi yn seiliedig ar ymchwil a wnaed yn 2007 gyda chant o blant rhwng 5 ac 16 oed a oedd yn byw mewn ardaloedd difreintiedig o gwmpas Cymru.

Dagrau pethau yw bod yr hyn sydd yn yr adroddiad yn adleisio cymaint o’r hyn rydym yn ei glywed heddiw gan blant a theuluoedd sydd yn ei chael hi’n anodd dal deupen llinyn ynghyd yn wyneb yr argyfwng costau byw presennol.

Fe siaradodd y plant a gymerodd ran yn y prosiect – nifer ohonynt yn rhieni eu hunain erbyn hyn dybiwn i – am golli allan ar nifer o agweddau o blentyndod gan gynnwys cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol. Roedd nifer yn teimlo fel eu bod yn cael eu trin yn wahanol ac yn cael eu bwlio oherwydd y dillad roeddent yn eu gwisgo. Ceir disgrifiadau o sut mae tlodi yn gallu effeithio ar ddiet plant ac arwain at broblemau iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd. Ac roeddynt yn myfyrio ar sut y gwyddent pan oedd eu rhieni yn teimlo’n drist oherwydd na allent brynu’r pethau roedd eu hangen ar eu plant.

A dyma ni yn y flwyddyn 2022 ac yn parhau i glywed straeon am blant mor ifanc â saith mlwydd oed yn dweud wrth ei hathrawes ei bod yn poeni am ei mam, gan iddi ei gweld yn crio am fod yna ddim ond tun o ffa pob yn y cwpwrdd bwyd. Mam arall yn dweud wrthym mai dim ond £50 sydd ganddi yn weddill i fwydo teulu o bedwar wedi iddi dalu ei biliau i gyd ac nad yw’n gwybod ble arall i droi.

Rydym hefyd yn clywed am rieni oedd wedi gorfod anfon eu plant i fyw gydag aelodau o’r teulu dros y gwyliau haf oherwydd na allent fforddio eu bwydo, ac am blant yn colli allan ar dripiau i lefydd fel Ynys y Barri oherwydd na allai eu rhieni fforddio y costau trafnidiaeth.

Plant sy’n talu’r pris am yr argyfwng costau byw

Rydym wedi bod yn rhybuddio ers misoedd mai plant fydd yn talu’r pris am yr argyfwng costau byw gyda’n harolwg diweddaraf yn datgelu canlyniadau sy’n peri pryder mawr.

Datgelodd arolwg Opinium, a holodd dros fil o deuluoedd ar draws y DU ar ran Achub y Plant, fod wyth o bob deg o rieni ar Gredyd Cynhwysol yn dweud bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith ar eu plant yng nghyswllt bwyd, dillad a chadw’n gynnes. Dywedodd bron i dri chwarter y rhai a holwyd fod yr argyfwng wedi effeithio yn negyddol ar eu plant yn emosiynol gyda rhai yn arddangos arwyddion o or-bryder ac yn cael trafferth cysgu oherwydd eu bod yn poeni am eu rhieni yn ceisio dod i ben gyda thalu biliau.

Nid yw hyn yn dderbyniol ac mae angen gweithredu ar frys.

Beth ellir ei wneud?

Am rai syniadau a datrysiadau beth am i ni edrych eto drwy dudalennau’r adroddiad a gyhoeddwyd yn 2007? Yma mae plant a phobl ifanc yn myfyrio ar sut y mae modd gwella bywydau y rhai sy’n byw mewn tlodi a rhoi terfyn ar dlodi ymysg plant yng Nghymru. Dyma rai o’u hawgrymiadau:

  • “Gwrandewch ar ein syniadau a’n barn.”
  • “Dylai’r budd-daliadau a’r cyflogau i gyd fod yn fwy rhywsut.”
  • “Gweithgareddau am ddim (yn enwedig yn ystod gwyliau’r ysgol) – nofio, canolfan chwaraeon, disgos, golff, sglefrio-iâ …”
  • “Bysiau am ddim i’r dref yn ystod y gwyliau ysgol. . .”

Heddiw, mae Achub y Plant yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno pecyn costau byw sy’n targedu plant yn benodol. Ry’n ni am weld cynnydd o £10 yr wythnos i’r elfen blant o’r Credyd Cynhwysol ar gyfer pob plentyn a gweld y cap ar fudd-daliadau yn cael ei ddiddymu ac ymrwymiad i godi budd-daliadau yn unol gyda chwyddiant.

Rydym hefyd am weld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno targedau penodol a cherrig milltir i fynd i’r afael â thlodi plant gan ganiatáu i’r sector gyhoeddus a’r trydydd sector gydweithio law yn llaw. Dylid hefyd sicrhau bod yr holl gynlluniau a rhaglenni sydd ar gael i helpu teuluoedd gyda chinio ysgol am ddim a’r cynnig gofal plant fod ar gael i bob un plentyn yng Nghymru sy’n profi effeithiau tlodi.

O enau plant bychain, mae’r neges yr un mor daer heddiw ac y bu erioed – gwrandewch a gweithredwch!

Am fwy o wybodaeth am ein gwaith ewch i savethechildren.org/wales

Tagged with: Cymraeg

Leave a Reply

Search

Search and filter the archive using any of the following fields:

  • Choose Type:

  • Choose Focus:

  • Choose Tag:

Close