Cyfiawnder cymdeithasol mewn cenedl fechan- Eluned Morgan

Bevan Foundation Video opening slide
ResourcesVideosViewsOctober 4th, 2021

Dyma’r trydydd fideo yn ein cyfres yn edrych ar gyfiawnder cymdeithasol mewn cenedl fechan

Dros yr haf mae Steffan Evans o Sefydliad Bevan wedi bod yn cynnal cyfweliadau gyda tri gwleidydd blaenllaw i drafod cyfiawnder cymdeithasol mewn cenhedloedd bach. Yn y trydydd fideo o’r gyfres ry ni’n cynnal sgwrs gyda Eluned Morgan AS, o Lafur Cymru.

Mewn sgwrs eang fe fu Eluned a Steffan yn trafod nifer o faterion sy’n ymwneud a cyfiawnder cymdeithasol. Ymysg yr hyn wnaeth Eluned ei rhannu oedd bod ei diddordeb mewn cyfiawnder cymdeithasol wedi ei gynnau yn ystod ei magwraeth yng Nghaerdydd. Fe wnaeth hi ddatgelu bod ei chwant i greu cymuned tecach yn un o’i chymhelliannau pennaf i gymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth. Fe wnaeth hi hefyd rannu rhai o’i syniadau ar sut allwn ni leihau anghydraddoldebau iechyd wrth i ni ail-adeiladu o’r pandemig ac fe wnaeth hi amlinellu sut roedd hi’n gobeithio gwireddu rhai o’r syniadau yma fel y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Gallwch wylio’r fideo isod. Os i chi’n mwynhau’r drafodaeth gwenwch yn siŵr eich bod yn cymryd golwg ar ein cyfweliadau gyda Sioned William AS o Blaid Cymru a Samuel Kurtz o’r Ceidwadwyr. 

Leave a Reply

Search

Search and filter the archive using any of the following fields:

  • Choose Type:

  • Choose Focus:

  • Choose Tag:

Close