Mae’r briff hwn gan y Sefydliad Bevan yn galw am uwchraddio budd-daliadau Cymreig yn flynyddol yn unol â chwyddiant
Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am nifer o grantiau a lwfansau sy’n ategu system nawdd cymdeithasol y DU. Mae’r grantiau a’r lwfansau yn cynnwys Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, Prydau Ysgol am Ddim, Grant Hanfodion Ysgol a Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Budd-daliadau Cymreig yw’r term mae’r Sefydliad Bevan wedi defnyddio ar cyfer y grantiau a lwfansau yma.
Mae budd-daliadau Cymreig yn rhoi cymorth i deuluoedd incwm isel a nhw un yw o’r prif ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn gallu lleihau tlodi a sicrhau bod gan aelwydydd ddigon o adnoddau ar gyfer hanfodion bob dydd. Mae’r briff hwn yn galw am roi grantiau a lwfansau datganoledig, gan gynnwys eu meini prawf cymhwysedd, ar sylfaen cadarn, trwy gael eu huwchraddio’n flynyddol yn unol â chwyddiant CPI.
Mae’r briff yn nodi tri phrif reswm pam y dylai codi meini prawf gwerth a chymhwysedd buddion Cymru fod yn flaenoriaeth:
- lleihau tlodi ac anghydraddoldeb
- helpu i sicrhau fod gwaith yn talu; a
- i gyflawni amcanion polisi ehangach.
Tudalennau: 10
Fformat: PDF
Iaith: Cymraeg
Cost: Am ddim