Llety Gwyliau a’r Rhent a’r sector rhentu preifat

Poverty
ReportsResourcesSeptember 29th, 2022

Ymchwil newydd yn dangos effaith dramatig ar cartrefi i’w rhenti

Mae’r nifer o eiddo a ddefnyddir ar gyfer llety gwyliau ar rent yn cynyddu ar draws Cymru, gan ennyn dadl am yr effaith ar dai lleol. Mae Sefydliad Bevan eisoes wedi tynnu sylw ar brinder cartrefi i’w rhentu ar gyfer teuluoedd isel eu hincwm a’r gagendor rhwng cyfraddau Lwfans Tai Lleol a rhenti’r farchnad. Mewn rhai o gymunedau Cymru, mae pwysau ychwanegol o’r sector llety gwyliau ar rent byrdymor ar y tai sydd ar gael.
Mae’r adroddiad hwn yn cynnig dadansoddiad unigryw o lety gwyliau ar rent sydd wedi eu hysbysebu gan un o’r cwmnïau mwyaf amlwg sy’n gweithredu yn y sector, ‘Airbnb’. Mae’n ystyried nifer o eiddo ‘Airbnb’ sydd ar gael ac yn edrych ar y berthynas rhwng yr eiddo Airbnb a restrir ac ystod tai lleol a lefelau Lwfans Tai Lleol. Mae’n gorffen drwy ystyried strwythur cyfredol gwesteiwyr Airbnb.

Prif canfyddiadau’r adroddiad yw:

  • Ym Mai 2022 rhestrwyd 21,718 ar ‘Airbnb’ yng Nghymru, cynnydd o 13,800 yn 2018.
  • Yr awdurdodau lleol gyda’r nifer uchaf o eiddo a restrir ar ‘Airbnb’ ydy Gwynedd (3,817), Sir Benfro (3,172) a Phowys (1,978). Mewn cyferbyniad, mae llai na 100 o eiddo a restrir ar ‘Airbnb’ ym Mlaenau Gwent (40) a Thorfaen (52).
  • O’r 21,718 a restrir ar ‘Airbnb’, mae 14,343 yn ymddangos eu bod yn addas i fyw ynddyn nhw’n hirdymor. Mae hyn yn cyfrif am un y cant o stoc tai Cymru. Mae’r cyfran ar ei uchaf yng Ngwynedd (4.6 y cant), Sir Benfro (3.7 y cant) a Cheredigion (3.1 y cant).
  • Mae cartrefi ‘Airbnb’ sy’n addas i fyw ynddyn nhw’n hirdymor yn ganran hyd yn oed yn fwy o’r sector rhentu preifat. Maen nhw’n cyfrif am 31 y cant o stoc rhentu preifat Gwynedd, 20 y cant o stoc ynys Môn ac 19 y cant o stoc Ceredigion.
  • Ym Mai 2022 cyfartaledd pris wythnosol ar gyfer eiddo un llofft ar ‘Airbnb’ oedd £710.14 a £2,175.71 am eiddo pedair llofft.
  • Yng Nghymru, yng Nghaerdydd y telir y pris wythnosol uchaf ar gyfartaledd am eiddo ‘Airbnb’ a’r isaf ym Merthyr Tudful.
  • Ar gyfartaledd, byddai’n cymryd llai na 10 wythnos i westeiwyr sy’n rhentu eu heiddo ar ‘Airbnb’ i dderbyn yr un incwm rhent â landlord sy’n rhentu eu heiddo ar gyfraddau LTLl/LHA ymhob awdurdod ar wahân i Dorfaen.
  • Mae’r enillion hyd yn oed yn gyflymach ar gyfer eiddo pedair llofft. Ar gyfartaledd mae’n cymryd llai na chwe wythnos i gynhyrchu incwm rhent blwyddyn ar gyfraddau LTLl/LHA ym mhob awdurdod lleol ar wahân i Gasnewydd a Thorfaen.
  • Rheolir 56 % o eiddo sy’n ymddangos yn addas ar gyfer byw ynddyn nhw’n hirdymor gan westeiwyr ‘Airbnb’ sy’n meddu ar ddau neu fwy o eiddo a restrir. Mae hyn yn cynnwys asiantaethau rheoli ac unigolion preifat.
  • Mae rhai asiantaethau yn rheoli nifer fawr o eiddo. Mae’r saith asiantaeth sy’n rhestru dros 100 o eiddo sy’n addas i fyw ynddyn nhw hirdymor yn rheoli 26% o’r holl eiddo ‘Airbnb’ a restrir.
  • Cofrestrir 17 % o eiddo a restrir ar ‘Airbnb’ yng Nghymru gyda’u gwesteiwyr wedi eu lleoli tu allan i Gymru.

Tudalen: 20

Fformat: PDF

Iaith: Cymraeg

Cost: Am ddim

Download

Tagged with: Cymraeg

Search

Search and filter the archive using any of the following fields:

  • Choose Type:

  • Choose Focus:

  • Choose Tag:

Close