Dull cyffredin o ymdrin â Budd-daliadau Cymru: Astudiaeth Dichonoldeb

Poverty
ReportsResourcesMay 22nd, 2023

Adroddiad newydd yn edrych ar dichonoldeb sefydlu System Fudd-daliadau Cymreig

Ers cryn amser, mae Sefydliad Bevan wedi cydnabod pwysigrwydd y grantiau a’r lwfansau amrywiol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru i aelwydydd incwm isel. Gan amrywio o’r Cynllun Gostyngiad Treth Cyngor hyd at Brydau Ysgol am Ddim, mae’r grantiau a’r lwfansau hyn yn darparu cymorth hanfodol i aelwydydd incwm isel ledled Cymru ac yn cyd-redeg â’r cymorth a ddarperir drwy system nawdd cymdeithasol y DU.

Mae’r Sefydliad Bevan wedi cynnig y dylai’r grantiau a’r lwfansau amrywiol hyn gael eu dwyn ynghyd mewn un fframwaith a alwyd gennym yn System Fudd-daliadau Cymru. Rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu system o’r fath i wella mynediad, cynyddu’r nifer sy’n manteisio arni a sicrhau gweinyddiaeth effeithlon a chyson ledled Cymru. Fel y cyfryw, mae gan System Fudd-daliadau Cymru botensial gwirioneddol i godi pobl allan o dlodi.

Mae’n bryd rhoi’r system ar waith. I’r diben hwn mae Sefydliad Bevan wedi cydweithio gyda sawl sefydliad arall i gomisiynu’r arbenigwyr allanol, ‘Policy in Practice’, i asesu sut i weithredu dull cyffredin o ymdrin â budd-daliadau Cymru gan ganolbwyntio ar ofynion data. 

Mae’r canfyddiadau yn wir gwerth eu darllen. Maen nhw’n dangos bod sefydlu System Fudd-daliadau Cymru yn ymarferol o ran trafod y data. Nid yn unig y mae’n ymarferol, mae’r adroddiad hefyd yn amlygu’r ffaith y gallai sefydlu System Fudd-daliadau Cymru arwain at werth miliynau o bunnoedd o fudd-daliadau nas hawliwyd i fod yn cyrraedd pocedi pobl sydd ar incwm isel.

Byddai’n cymryd amser i greu System Fudd-daliadau Cymru yn gyflawn. Mae’r adroddiad yn nodi sawl cam y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd yn y tymor canolig i sefydlu trefniadau cynhwysfawr. Mae’n hanfodol bod y camau hyn yn cael eu cymryd, ac i wneud hynny rydyn ni’n argymell bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu grŵp gweithredu sy’n cynnwys y rhai sy’n darparu’r grantiau a’r lwfansau ar hyn o bryd, ynghyd ag arbenigwyr eraill.


Ond does dim angen i ni oedi – mae rhai manteision ar gael i’w hennill ar unwaith. Dengys yr adroddiad y gallai gwneud defnydd gwell o ddata gynyddu’r niferoedd sy’n manteisio ar nifer o grantiau a lwfansau, gan roi rhywfaint o ryddhad i aelwydydd sydd dan bwysau mawr yn ystod yr argyfwng costau byw. Rydyn ni’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’i phartneriaid i weithredu arnyn nhw, a hynny ar frys.

Fformat yr adroddiad: PDF

Iaith: Cymraeg

Tudalenau: 12 (i ddarllen fersiwn Saesneg yr adroddiad cymerwch olwg ar y fersiwn Saesneg) 

Cost: Am Ddim

 

Download

Search

Search and filter the archive using any of the following fields:

  • Choose Type:

  • Choose Focus:

  • Choose Tag:

Close