![Looking down on the Senedd chamber](https://www.bevanfoundation.org/wp-content/uploads/2024/07/Senedd_Chamber-400x250.jpg)
![Bevan Foundation panellists at the Eisteddfod](https://www.bevanfoundation.org/wp-content/uploads/2024/08/Presentation-3-1024x640.jpg)
Torf dda yn ymuno gyda’r Sefydliad Bevan i drafod cyfoeth Cymunedol
Gyda’r Eisteddfod yn ei hanterth, fe roedd Sefydliad Bevan yn falch i allu cynnal trafodaeth ar ddyfodol cyfoeth cymunedol ym Mhabell y Cymdeithasau ar brynhawn dydd Mawrth, Awst 6ed. Yn ymuno gyda’r Sefydliad Bevan oedd Selwyn Williams o Gwmni Bro Ffestiniog a Cymunedoli Cyf, a Lis McLean o Ganolfan Soar.
Bwriad y sesiwn oedd i adeiladu ar lwyddiant dwy daith addysgol rhwng Bro Ffestiniog a Chwm Cynon a drefnodd y Sefydliad Bevan llynedd dan nawdd y Barry Amiel a Norman Melburn Trust, a’r Lipman Milliband Trust. Bwriad y teithiau oedd i ddysgu mwy am sut mae cyfalafiaeth wedi echdynnu cyfoeth o’n cymunedau yn hanesyddol, sut mae’n parhau i wneud hynny a sut allwn gefnogi twf mentrau cymunedol fel ymgais i adeiladu economi decach sydd yn cadw cyfoeth yn lleol.
Wedi rhoi trosolwg o gwaith eu mudiadau ac ysbrydoli’r gynulleidfa drwy rhoi gwybod am rhai o’u llwyddiannau fe agorodd y drafodaeth yn ehangach i edrych ar pam fod cymunedoli cyfoeth mor bwysig a pa gamau sydd angen cymryd i sicrhau hyn. Ymysg y pwyntiau mwyaf poblogaidd ym mhlyth y gynulleidfa oedd:
- Mae cyfoeth aruthrol wedi eu echdynnu o gymunedau Cymreig yn hanesyddol ac mae hyn yn barhau i ddigwydd. Y ddinas yn Llundain sydd yn gwneud yr elw mwyaf o dwf twristiaeth a egni adnewyddadwy yn ein cymunedau ni, nid y cymunedau eu hun.
- Mae’n rhaid ail edrych ar sut mae’r farchnad egni yn gweithio. Mae mudiadau cymunedol ar draws Cymru yn colli arian aruthrol o ganlyniad i filiau egni anferth ond o dan y farchnad bresennol mae’n anodd iawn i gymunedau elwa o dwf ffermydd gwynt a solar o fewn eu cymunedau.
- Mae angen i Lywodraeth Cymru newid y ffordd maent yn cefnogi twf economaidd. Yn bresennol mae’r Llywodraeth yn gwario y mwyafrif helaeth o’i buddsoddiad ar fusnesau mawr rhyngwladol, gyda’r ddinas yn Llundain yn elwa mwy na chymunedau lleol. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gefnogi mudiadau i ddatblygi eu economïau nhw yn lleol os i ni o ddifri am gadw cyfoeth yn lleol a chreu Cymru cyfoethocach.
Fe fydd recordiad o’r digwyddiad i gael yn y man ac fe fyddwn yn rhannu linc yma.