Sefydliad Bevan yn trafod effaith y pandemig ar addysg plant

Poverty Picture of Steffan being interviewed
NewsAugust 13th, 2021

Ymunodd Steffan Evans â BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales i drafod effaith y pandemig ar addysg plant sy’n byw mewn tlodi.

Er i’r wythnos diwethaf gweld y canlyniadau TGAU a Lefel A uchaf erioed mae’r canlyniadau yn darparu llun cymysg o ran cyrhaeddiant plant mewn tlodi. Er i ganlyniadau plant sydd yn derbyn ginio ysgol am ddim gynyddu, mae’r bwlch rhwng eu canlyniadau nhw a plant sydd ddim yn derbyn cinio ysgol am ddim wedi tyfu. Fe fu Steffan Evans o’n tîm ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru a rhaglen Gareth Lewis ar BBC Radio Wales yn trafod y mater.


Fe ddatgelodd Steffan bod y pandemig wedi effeithio ar addysg plant sy’n byw mewn tlodi mewn sawl modd. Nododd bod plant o aelwydydd tlawd yn eu gweld hi’n llawer anoddach i fynychu gwersi ar lein yn ystod y cyfnodau clo na plant o aelwydydd cyfoethocach. Mae ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig hefyd wedi bod yn fwy tebygol o orfod danfon plant adre o ganlyniad i achos Covid yn eu cymunedau, tra fod plant o aelwydydd tlawd wedi bod yn llai tebygol o dderbyn tiwtora preifat.

Gallwch wrando nol ar y cyfweliad ar wefan BBC Sounds neu mae modd gwylio clip o’r cyfweliad yma.

Search

Search and filter the archive using any of the following fields:

  • Choose Type:

  • Choose Focus:

  • Choose Tag:

Close