

Beth am ddysgu sy’n gwella iechyd a lles?
Gwahoddir unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb mewn ymchwilio sut y gall gostwng y galw ar ein Gwasanaethau Iechyd drwy ddefnyddio addysg oedolion wella iechyd a lles pobl i ymuno âNIACE Cymru a Sefydliad Bevan ddydd Mercher 14 Ionawr 2015yn Adeilad Pierhead, Caerdydd, CF10 4PZ, am 9.30am i 3.00pm.
Os ydych yn wneuthurwr polisi lleol neu genedlaethol, yn comisiynu gwasanaethau, yn rhan o bartneriaeth addysg oedolion, gweithio yn y trydydd sector neu’n weithgar o fewn clystyrau Cymunedau yn Gyntaf neu Dai Cymdeithasol, dewch draw a rhannu eich syniadau a’ch profiadau.
Trefnwyd y digwyddiad mewn cysylltiad gyda Sefydliad Bevan ac rydym yn falch iawn y bydd Mark Drakeford AC, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Dr Jessica Allen, Cyd Gyfarwyddwr Sefydliad Tegwch Iechyd, Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr, Conffederasiwn GIG Cymru a Dr Peter Bradley, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ymuno â ni.
Mae hwn yn ddigwyddiad AM DDIM ond codir tâl canslo o £25 am gynrychiolwyr sydd wedi cofrestru ond nad ydynt yn mynychu’r digwyddiad
Os hoffech fynychu llenwch y Ffurflen archebu amgaeedig a’i dychwelyd i Wendy Ellaway-Lock yn [email protected] os gwelwch yn dda.
Email: [email protected] Tel: 01685 350938 Twitter Facebook YouTube LinkedIn
Search and filter the archive using any of the following fields: