Agorwch ddrws i gartref gweddus i bawb y Nadolig hwn

Mae rhenti yn codi, cymorth y llywodraeth gyda chostau tai yn gostwng.

Mae miloedd yng Nghymru yn methu dod o hyd i gartref y gallan nhw ei fforddio.

Ar gyfartaledd mae pobl yn canfod eu hunain £80 y mis yn brin, gan eu gorfodi i ddewis rhwng torri nôl ar fwyd a gwresogi neu fentro syrthio i ôl-ddyledion rhent neu, gwaeth fyth, bod yn ddigartref.

Mae’n argyfwng sy’n effeithio ar ddau o bob tri chartref incwm isel, ac mae’n un rydyn ni wedi ymrwymo i dynnu sylw ato.

Rydyn ni eisoes wedi datgelu mai dim ond 1 o bob 20 cartref sydd ar gael i’w rhentu’n breifat sy’n cael ei talu’n llawn gan fudd-daliadau nawdd cymdeithasol. Rydyn ni’n amlygu sut mae rhai landlordiaid yn gwahaniaethu yn erbyn rhentwyr incwm isel. Ac rydyn ni’n datgelu prinder ysgytwol tai cymdeithasol sydd ar gael i bobl sengl.

Mae ein calendr Adfent y gellir ei glicio arno isod yn cynnwys 24 o ffeithiau sy’n datgelu cyflwr yr argyfwng sy’n wynebu Cymru y Nadolig hwn.

Wnewch chi ein helpu i godi £3,000 er mwyn ymgyrchu am well bargen?

Bydd eich caredigrwydd yn ein helpu gyda’r canlynol:

  • Ymgyrchu dros ragor o dai cymdeithasol i bobl sengl.
  • Ymgyrchu dros gynnydd yn yr help sydd ar gael.
  • Galw am ddileu rhwystrau sy’n wynebu rhai sy’n rhentu.

Os gwelwch yn dda, cyfrannwch a lledaenwch y wybodaeth fel cawn ni gartrefi gweddus i bawb.

Donate Here

Search

Search and filter the archive using any of the following fields:

  • Choose Type:

  • Choose Focus:

  • Choose Tag:

Close