Ar gyfartaledd mae pobl yn canfod eu hunain £80 y mis yn brin, gan eu gorfodi i ddewis rhwng torri nôl ar fwyd a gwresogi neu fentro syrthio i ôl-ddyledion rhent neu, gwaeth fyth, bod yn ddigartref.
Mae’n argyfwng sy’n effeithio ar ddau o bob tri chartref incwm isel, ac mae’n un rydyn ni wedi ymrwymo i dynnu sylw ato.
Rydyn ni eisoes wedi datgelu mai dim ond 1 o bob 20 cartref sydd ar gael i’w rhentu’n breifat sy’n cael ei talu’n llawn gan fudd-daliadau nawdd cymdeithasol. Rydyn ni’n amlygu sut mae rhai landlordiaid yn gwahaniaethu yn erbyn rhentwyr incwm isel. Ac rydyn ni’n datgelu prinder ysgytwol tai cymdeithasol sydd ar gael i bobl sengl.
Mae ein calendr Adfent y gellir ei glicio arno isod yn cynnwys 24 o ffeithiau sy’n datgelu cyflwr yr argyfwng sy’n wynebu Cymru y Nadolig hwn.
Bydd eich caredigrwydd yn ein helpu gyda’r canlynol:
Email: [email protected] Tel: 01685 350938 Twitter Facebook YouTube LinkedIn
Search and filter the archive using any of the following fields: