Rhowch Obaith o Gael Cartref y Nadolig hwn

Bevan Foundation Christmas appeal 2024 graphic
CampaignsNewsNovember 12th, 2024

Dylai fod gan bawb yr hawl i fod yn ddiogel a man sefydlog i alw’n gartref.

Ond mae miloedd o bobl yng Nghymru yn byw heb yr angen sylfaenol hwn.

Mae’r nifer uchaf erioed o bobl yn byw mewn llety dros dro ac mae’r argyfwng costau byw yn golygu bod llawer mwy yn poeni am golli eu cartrefi.

Dangosodd ein hymchwil diweddaraf fod un o bob 215 o deuluoedd yng Nghymru yn byw mewn llety dros dro. Mae hyn yn cynnwys dros 3,000 o blant – bron chwech ymhob 1,000 o blant yng Nghymru. Er bod llety dros dro yn llinell gymorth bwysig ar adeg o argyfwng, ni ellir byth ei alw’n gartref.

Hefyd does dim digon o gartrefi cymdeithasol ar gyfer pawb – mae 139,000 o bobl yn aros am gartref cymdeithasol a does dim digon o gartrefi cymdeithasol yn cael eu hadeiladu.

Rydyn ni’n amlygu graddfa ac effaith yr argyfwng tai yng Nghymru – rydyn ni angen eich help fel bod gan bawb obaith o gael cartref.

A wnewch chi ein helpu i godi £2,500 i sicrhau cartrefi gwell a fforddiadwy ar gyfer pawb yng Nghymru?

Fe wnawn ddefnyddio’ch rhodd i ganfod dulliau o ddarparu cartref gweddus ar gyfer pobl sy’n gorfod byw mewn llety dros dro ac i sicrhau bod digon o gartrefi cymdeithasol i bawb.

Dulliau eraill o gyfrannu:

1. Rhoi drwy dystysgrif rodd

Lledaenwch lawenydd y rhoi! Rhoddwch ar ran rhywun arbennig ac fe wnawn ni greu tystysgrif rodd gyda neges oddi wrthoch chi i’r derbynnydd.

2. Rhoi yn lle cardiau Nadolig

Dewiswch i anfon un o’n e-gardiau Nadolig drwy Don’t Send Me A Card a rhoi’r arian y byddwch wedi’i wario ar gardiau traddodiadol.

3. Trefnwch gasgliad codi arian ar Facebook

Methu â phenderfynu yr hyn hoffech chi gael adeg y Nadolig? Pam na ofynnwch chi am gyfraniadau yn hytrach nag anrhegion? Trefnwch gasgliad godi arian ar Facebook a chefnogi ein hapêl gyda chymorth eich ffrindiau a’ch teulu.

4.Codi rhoddion drwy siopa ar-lein

Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n galed ar lawer ar hyn o bryd a dydy pawb ddim yn gallu rhoi’n uniongyrchol. Ond gallwch ein helpu ni o hyd drwy siopa ar-lein! Prynwch drwy Give as you Live, a bydd miloedd o fân-werthwyr yn rhoi ar eich rhan heb unrhyw gost ychwanegol i chi.

5. Casglu rhoddion tra’n cymdeithasu

Trowch eich bore coffi nesaf, eich cinio neu noson gymdeithasol nesaf yn achlysur codi arian! Gofynnwch i’n gwesteion i dalu am bris paned ac yna, yn syml, cyfrannu’r cyfanswm drwy ein ffurflen.

Helpwch ni i godi ymwybyddiaeth gan ddefnyddio #TheHopeOfHome

Gyda’n gilydd, gallwch roi gobaith i bobl ar draws Cymru o gael cartref y Nadolig hwn!

Tagged with: Cymraeg

Search

Search and filter the archive using any of the following fields:

  • Choose Type:

  • Choose Focus:

  • Choose Tag:

Close