Ein gweledigaeth

view of pen pych mountain

Cymru deg, ffyniannus a chynaliadwy i bawb.

Ein gwerthoedd

Michael Sheen Homeless World Cup

Rydyn ni’n annibynnol, yn wybodus, yn ysbrydoli ac yn gynhwysol ym mhopeth a wnawn.

Ein hamcanion

Creu mewnwelediadau, syniadau a dylanwadu i roi diwedd ar dlodi ac a anghydraddoldeb.

Yr hyn a wnawn

comment

Mewnwelediadau



Rydyn ni’n datblygu mewnwelediadau drwy wrando ar brofiadau pobl, dadansoddi data a chyflwyno syniadau arweinwyr arbenigol i gynulleidfa ehangach drwy sesiynau briffio, erthyglau, seminarau a chynadleddau.


lightbulb_outline

Syniadau



Rydyn ni’n defnyddio tystiolaeth gadarn a chyfnewid syniadau ac arferion da i greu datrysiadau blaengar, ymarferol a pharhaol i wella bywydau pobl a thrawsnewid Cymru.



insert_chart

Effaith


Rydyn ni’n annog ac ysbrydoli y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y llywodraeth, cyrff cyhoeddus, y sector cyhoeddus, a’r trydydd sector i weithredu. Rydyn ni’n cynnig sail i bolisi cyhoeddus drwy ymglymu’n ddiduedd â’r byd gwleidyddol, yn rhannu adnoddau a chynnig sylwadau yn y cyfryngau.

Ein stori

Sefydlwyd Sefydliad Bevan yn 2001 i atgyfnerthu polisi cyhoeddus ar ôl datganoli. 

Enwyd ni ar ôl Aneurin Bevan, sylfaenydd y GIG, oherwydd ein cyd-ymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol er bod y Sefydliad yn gadarn amhleidiol.

Ers hynny, rydyn ni wedi gwneud cyfraniad sylweddol i bolisi cyhoeddus:

  • Canlyniad ein hymgais i geisio cyfiawnder economaidd ar gyfer cymoedd de Cymru oedd i Lywodraeth Cymru gyflwyno dwy raglen ddatblygu yn ystod y 2000au.
  • Cyfrannon ni at lunio ‘rhaglen flaengar’ 2007-11 Llywodraeth Cynulliad Cymru ac i wneud tlodi yn flaenoriaeth ar gyfer gweinyddiaeth Llywodraeth 2011-6.
  • Gwyntyllwyd y cwestiwn o drethu newydd datganoledig yn gyhoeddus a oedd yn sylfaen i gynigion Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ei grymoedd trethu newydd yn ystod gweinyddiaeth llywodraeth 2016-21.
  • Roedden ni’n allweddol i atal diddymu’r help gyda chostau gwisg ysgol ar gyfer plant o deuluoedd tlawd.
  • Ymgyrchon ni’n llwyddiannus i deuluoedd dderbyn yr arian yn lle cinio ysgol am ddim pan fu rhaid i ysgolion gau oherwydd haint y coronafeirws.
  • Fe wnaethon ni wella mynediad i bobl isel eu hincwm i grantiau a lwfansau datganoledig , megis prydau ysgol am ddim a gostyngiad yn nhreth y cyngor.

Yn ystod 2020-21 hefyd, fe wnaethon ni’r canlynol :

  • Cyhoeddi 30 o adroddiadau, dros 100 erthyglau ar-lein a chynnal 17 sesiwn briffio
  • cawson sylw yng nghyfryngau’r DU, a sylw yn y cyfryngau Cymraeg ac arbenigol
  • ymwelodd 41,000 â’n gwefan a chawson ni 12,500 yn ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol
  • mynychodd 600 o bobl ein digwyddiadau
  • cynigion ni dystiolaeth arbenigol i bum ymchwiliad Llywodraeth Cymru a dau ymchwiliad Senedd y DU
  • dyfynnwyd ni 50 o weithiau gan Aelodau’r Senedd o  bob plaid wrth drafod busnes y Senedd a chyfrannon ni i ymchwil y Senedd

Ein cyllid

Mae llawer o bobl a sefydliadau yn galluogi’r Sefydliad i ddylanwadu’n sylweddol.

Tanysgrifiadau

Mae dros 100 o sefydliadau o bob math yn elwa o’r syniadau a chyfleoedd unigryw yr ydyn ni’n eu cynnig ar gyfer dysgu a rhwydweithio gydag eraill.

Rhoddion

Mae cannoedd o unigolion yn cefnogi a chynorthwyo Sefydliad Bevan naill ai gyda rhoddion un-tro neu roddion cyson. Mae eu cymorth ariannol yn ein galluogi i ddweud ein dweud, datblygu atebion a gwneud gwahaniaeth. 

Ymddiriedolaethau a Sefydliadau

Cynorthwyir prosiectau arbennig gan ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol a weithiau gan gyrff cyhoeddus neu gyrff y trydydd sector a busnesau. 

Ymhlith cyllidwyr cyfredol a diweddar mae:

  • Sefydliad Friends Provident
  • Sefydliad Joseph Rowntree
  • Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Rowntree
  • Sefydliad Banc Lloyds
  • Sefydliad Paul Hamlyn
  • Y Loteri Genedlaethol
  • Sefydliad Standard Life
  • UnLtd
  • Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful
  • Cronfa Her Economaidd Sefydliadol Llywodraeth Cymru

Rydyn ni’n elusen gofrestredig rhif. 1104191 ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant rhif 4175018

Because of us…

Search

Search and filter the archive using any of the following fields:

  • Choose Type:

  • Choose Focus:

  • Choose Tag:

Close